PL 26
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Ymchwiliad i: Lyfrgelloedd Cyhoeddus
Ymateb gan: Cyngor Gwynedd
1. I ba raddau y gwnaed cynnydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Llywodraethu sy'n ymwneud a llyfrgelloedd, a pha mor gynaliadwy yw unrhyw gynnydd yn yr hinsawdd sydd ohoni;
1.1 Amlinellir ymrwymiadau Llywodraeth Cymru sydd yn ymwneud a llyfrgelloedd yn y ddogfen strategol a gyhoeddwyd gan CyMAL - ‘Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli’ - Fframwaith Strategol ar gyfer datblygu llyfrgelloedd Cymru 2012-2016’. Defnyddir y ddogfen hon i arwain a hysbysu rhaglenni gwaith y Gwasanaeth Llyfrgell Cyhoeddus yng Ngwynedd ochr yn ochr â chyfraniad y gwasanaeth i amcanion strategol Cyngor Gwynedd.
Yn benodol mae cynnydd wedi ei weld mewn tri maes amlinellir isod yn gryno sef:-
1.1.1Adeiladau Llyfrgell
Trwy raglen grant Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol CyMAL - sy'n cefnogi awdurdodau lleol i wella, moderneiddio a datblygu llyfrgelloedd lleol er mwyn darparu budd mwyaf i drigolion drwy ddenu mwy o ymwelwyr a defnydd - bu’n bosib adnewyddu adeiladau llyfrgell
• rhwng 2008 a 2013 adnewyddwyd 5 llyfrgell yng Ngwynedd ( Caernarfon, Abermaw, Dolgellau , Nefyn a Thywyn ) gyda thystiolaeth fod y gwaith wedi cyfrannu at gynnydd neu gynnal defnydd dros gyfnod a hyrwyddo cydweithrediad gyda grwpiau yn y gymuned.
1.1.2 Safonau Llyfrgelloedd
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn ddyletswydd statudol ac mae’n ofynnol i awdurdod lleol i ddarparu gwasanaeth ‘cynhwysfawr ac effeithiol’ . Fel maes datganoledig mae lefel darparu gwasanaethau llyfrgell wedi ei ddiffinio gan Lywodraeth Cymru ers 2002. Gwneir hynny o fewn fframweithiau ‘Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru’ a ddiwygir pob tair blynedd gan CyMAL ar ran Llywodraeth Cymru a hynny mewn ymgynghoriad a’r sector a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymysg eraill .Mae’r fframwaith presennol mewn grym hyd Fawrth 2014 ac adroddir ar berfformiad yr awdurdod yn flynyddol i Lywodraeth Cymru a derbynnir asesiad o gynnydd yr awdurdod.
· Mae’r asesiad diweddaraf o berfformiad Gwynedd ar gyfer y Safonau Llyfrgelloedd Cymru yn nodi fod yr awdurdod ‘ Yn cyrraedd gofynion 8 o’r 9 Safon ac yn cyrraedd un arall yn rhannol’. Er gymhariaeth mae awdurdodau eraill Cymru yn cyrraedd 6 Safon, ar gyfartaledd yn 2012-13, y nifer uchaf oedd 8, a’r isaf oedd 3. Mae perfformiad Gwynedd felly yn uwch na’r cyfartaledd o’i gymharu â gweddill Cymru.
1.1.3 Cydweithio mewn Partneriaeth
Bu
cefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy waith CyMAL yn allweddol i
gryfhau cydweithio rhanbarthol ymhlith llyfrgelloedd pob sector
(cyhoeddus , academaidd , iechyd ac arbennig) . Gwnaed cynnydd yn
arbennig gan Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gogledd Cymru ym meysydd
hyrwyddo mynediad y cyhoedd at adnoddau pob llyfrgell ac i wella
cyfleodd hyfforddiant staff i geisio sicrhau'r gefnogaeth
gorau posib i ddefnyddwyr llyfrgelloedd :-
· LINC y Gogledd trefn benthyciadau rhwng llyfrgelloedd Gogledd Cymru gwelwyd cynnydd yn y nifer o geisiadau am adnoddau ac mae adborth gan y cyhoedd i’r drefn yn gadarnhaol iawn.
· Trefnir rhaglen i staff ar draws pob sector gan y Bartneriaeth i ddatblygu sgiliau gan gynnwys yn ddiweddar hyfforddiant Llythrennedd Gwybodaeth sydd yn cyfrannu at agenda cynhwysiad digidol Llywodraeth Cymru .
1.2 O ran cynaladwyedd y gweithgarwch a nodir uchod, mae’n anodd rhagweld y bydd unrhyw gynnydd sylweddol yn yr hinsawdd sydd ohoni .Bydd , ar y gorau, cyfyngu ar gyllideb y Gwasanaeth Llyfrgell gyda thoriadau sylweddol yn bosib .
· Eisoes gwelwyd cyfyngiad ar wariant cyfalaf yn gysylltiedig â llyfrgelloedd a chyfyngu felly a gallu’r awdurdod i fanteisio ar y rhaglen grant gwella adeiladau . Ni ragwelir fod y sefyllfa hynny am wella ond mae’n fwriad i geisio gwella’r ddarpariaeth mewn un gymuned yn y cyfnod tair blynedd nesaf wrth ddatblygu ysgol newydd yn Y Bala.
· Bu perfformiad Gwynedd wrth ymateb i anghenion y Safonau Llyfrgell yn gyson yn dda a chynnydd dros gyfnod pob fframwaith ond gyda’r cyfyngiadau ar gyllidebau'r Gwasanaeth Llyfrgell mae posibilrwydd cryf y bydd perfformiad yr awdurdod yn dioddef gydag effaith ar fodlonrwydd uchel defnyddwyr gyda’r Gwasanaeth.
· Fel mae cyllidebau yn crebachu mae lleihau gwariant ar staffio, a staff proffesiynol yn arbennig, yn debygol o gael effaith ar ehangder a dwysder y gwaith cydweithio rhanbarthol er bod yr angen amdano am fod yn fwy .Mae gwaith partneriaethol yn cymryd amser ond mae angen hefyd i flaenoriaethu dyletswyddau rheng flaen feunyddiol.
· Er bod cyfraniad gan y gwasanaeth Llyfrgell at amcanion y Cyngor yn aml ni chydnabyddir y rôl sydd gan lyfrgelloedd cyhoeddus i'w chwarae mewn perthynas â meysydd gweithredu lleol allweddol. Mae angen i hyn gael ei gydnabod wrth flaenoriaethu yn lleol a'u cydnabod yn ehangach wrth weithredu ar feysydd polisi meysydd polisi cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o werth llyfrgelloedd cyhoeddus i unigolion a chymunedau lleol.
2. I ba raddau y mae'r fframweithiau deddfwriaeth a pholisi presennol yn addas i ateb yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru;
2.1 Mae darparu gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus yn ddyletswydd statudol ar awdurdod lleol o dan y Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi'r ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i " arolygu'r a hyrwyddo gwella'r gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus a ddarperir gan awdurdodau lleol ... ac i sicrhau cyflawni priodol gan awdurdodau lleol y swyddogaethau mewn perthynas â llyfrgelloedd a roddwyd iddynt fel awdurdodau llyfrgelloedd gan Ddeddf hon neu o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru " .
2.2 Diffinnir ac arolygir natur cyflenwi gwasanaeth awdurdodau drwy ‘r fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a chefnogir gwelliant a hyrwyddo trwy’r strategaethau datblygol gan gynnwys yr un presennol ‘Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli’. Mae’n sicr fod y Safonau Llyfrgell a’r Strategaethau Datblygol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gysondeb ac ansawdd y gwasanaethau llyfrgell ar draws Cymru , ac mae hyn yn amlwg gan lefelau bodlonrwydd defnyddwyr uchel gyda gwasanaethau llyfrgell cyhoeddus.
2.3 Mae ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gyfer y fframwaith Safonau ar gyfer Ebrill 2014 ymlaen. Yn sicr mae angen am fframwaith diwygiedig sy'n diffinio gofynion a ddisgwylir gan awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswydd i ddarparu gwasanaeth llyfrgell gyhoeddus . Yn wir, gallai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol unigol fod yn agored i her gyfreithiol os nad oes fframwaith yn dilyn cyfnod o ddeuddeg mlynedd gyda darpariaeth o'r fath ar waith. Ydyn ni yn sicr o hyn
2.4. Mae'n amlwg bod angen i'r fframwaith newydd Safonau Llyfrgell i adlewyrchu realiti presennol amgylchiadau ariannol sy'n debygol o weld gostyngiad sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Fodd bynnag, mae risg sylweddol o ran gosod y safonau diwygiedig fel eu bod yn cael eu pennu i ' ffitio ' y gwariant a ragwelir bydd ar gael, yn hytrach na nodi'r hyn sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth llyfrgell 'cynhwysfawr ac effeithlon '. Fe ddylai’r safonau ganolbwyntio mwy ar yr hyn mae disgwyl i wasanaethau llyfrgell ei gyflawni i drigolion yn hytrach na’r mewnbynnau i’r gwasanaeth ac yna bod y rhyddid i awdurdodau unigol benderfynu ar y dull gorau yn lleol o gyflawni.
2.5 Fe allasai'r bwriad presennol i osod meincnod ar y chwartel isaf arwain at ostyngiad sylweddol yn staff y llyfrgell, y stoc benthyg a'r gofod adeilad ar gael - elfennau allweddol o ansawdd gwasanaeth llyfrgell.
2.6 Mae’r broses ymgynghori ar y Safonau ar gyfer 2014 -17 wedi amlygu yn gywir yr angen i roi sylw i allbynnau ac effeithiau - sef canolbwyntio ar sicrhau a mesur y budd mae defnyddwyr yn ei dderbyn o ddefnyddio Gwasanaethau Llyfrgell . Rhaid nodi na all y rhan fwyaf o’r allbynnau cael eu cyflawni heb elfen mewnbwn allweddol staff (gan gynnwys staff i oruchwylio a chefnogi unrhyw wirfoddolwyr ar gyfer rhai gwasanaethau atodol ) .
2.7 Wrth lunio'r fframwaith Safonau terfynol mae angen sicrhau nad yw disgwyliadau o ran allbynnau ac effeithiau yn ymddangos yn sylweddol tra bod ‘mewnbynnau’ , fel gwariant ar adnoddau a staff, yn cael eu lleihau dros y cyfnod nesaf . Mae'n annhebygol iawn y gall gwasanaethau llyfrgell fod yn 'cynhwysfawr ac effeithlon ' yn arbennig os yw meincnodau'r safonau yn cael gosod yn rhy isel . Gall meincnodau heriol hyrwyddo ' effeithlonrwydd', gan ragdybio bod lefel y defnydd yn parhau i fod yr un fath neu yn cynyddu - ond nid yw effeithlonrwydd o reidrwydd yn hyrwyddo ' ansawdd'.
3. Pa mor barod yw Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer lliniaru effaith toriadau yn y sector cyhoeddus ar wasanaethau llyfrgelloedd;
3. 1.Mae Gwynedd eisoes yn y broses o gwblhau adolygiad llawn o’r Gwasanaeth Llyfrgell gan geisio cynllunio patrwm a dull darparu'r Gwasanaeth i’r dyfodol. Wrth geisio lliniaru effaith cyfyngiadau ar gyllidebau gwariant mae’n fwriad gan yr awdurdod i edrych ar gyd leoli llyfrgelloedd , cydweithio gyda chymunedau a chefnogi gwaith partneriaeth :-
· Mae nifer o lyfrgelloedd Gwynedd eisoes wedi eu cydleoli naill ai a gwasanaethau eraill y Cyngor ( ee Neuadd Dwyfor, Pwllheli ) neu sefydliadau cymunedol (e.e. Antur Nantlle, Penygroes). Bwriedir edrych ar gyfleoedd eraill i gydleoli llyfrgelloedd ble mae hynny yn fanteisiol i’r gwasanaeth ac i drigolion Gwynedd.
· Wrth adolygu’r Gwasanaeth Llyfrgell nodwyd y defnyddir rhai llyfrgelloedd gan ddefnyddwyr o fewn dalgylch gymharol gyfyngedig. Bwriedir cydweithio gydag ystod o grwpiau cymunedol i geisio sicrhau hyfywdra'r llyfrgelloedd hyn gan edrych ar y defnydd o wirfoddolwyrBu’r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau Conwy ac Ynys Môn ers 1996 i ddarparu Uned Lyfryddol sydd yn cyflawni a chefnogi nifer o swyddogaethau ‘swyddfa gefn’ a chyfrifiadurol llyfrgelloedd. Bwriedir ymestyn y trefniant hwn trwy gydweithio ag awdurdodau eraill yng Ngogledd Gogledd Cymru (gweler 4.3)
3.2 Mae'n ofynnol i awdurdod llyfrgell i fod yn ' effeithlon' fel rhan o'i ddyletswydd statudol a bu Gwasanaeth Llyfrgell yng Ngwynedd yn gweithredu yn gyson i sicrhau gwerth gorau a chyflawni ‘arbedion effeithlonrwydd’ ers nifer o flynyddoedd bellach. Rhaid nodi o ran cyfanswm cyllidebau'r awdurdod mae’r Gwasanaeth Llyfrgell yn cynrychioli llai nag 1% o gyfanswm y gwariant.
4.Opsiynau ar gyfer gwella cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau llyfrgelloedd, gan gynnwys modelau amgen ar gyfer eu darparu;
4.1 Gyda’r defnydd cynyddol o’r dyfeisiadau technolegol diweddaraf, ynghyd a’r newid yn nisgwyliadau’r cyhoedd a ddaw gyda’r defnydd hynny - mae angen i’r awdurdod fod yn glir am yr hyn mae llyfrgelloedd i gynnig i drigolion Gwynedd. Fel mae’r cyfnod trawsnewid yn datblygu gyda mwy o ddarpariaeth adnoddau rhithiol gellir rhyddhau gofod llyfrgell ar gyfer gweithgarwch hybu i dynnu sylw at yr hyn sydd ar gael yn ddigidol a hwyluso mynediad at yr hyn sydd ar gael.
4.2 Mae adroddiad ar strwythurau rheoli amgen ar gyfer y gwasanaethau llyfrgell yn y rhanbarth wedi ei gomisiynu gyda chyllid gan CyMAL ac ynddo argymhellir ' creu Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ' .. Mae angen ail-ymweld a hyn yn sgil y cyhoeddiadau ynglŷn ag ad-drefnu.
4.3 Bwriedir i symud ymlaen i integreiddio systemau cyfrifiadurol Gwasanaethau Llyfrgell Gogledd Cymru gyda datblygiad System Rheoli Llyfrgell (LMS) newydd . Nodir hefyd y gellid uno Unedau Llyfryddol symud ymlaen o ganlyniad i sefydlu LMS rhanbarthol a chynnig y system i awdurdodau eraill yng Nghymru. Mae proses caffael ar y cyd ar gyfer LMS yn symud ymlaen a bydd tendr ar gyfer y cam cyntaf yn cael ei gyhoeddi'n fuan trwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru . Bydd cefnogaeth ariannol ar gyfer cyflwyno cam un yn cael ei gydlynu gan Cymal ar ran Llywodraeth Cymru, a bydd ei wireddu yn cyflawni argymhelliad 18 o adroddiad ‘Simpson' (Llywodraeth Cymru, 2011).
5. Rôl gyfoes a chymunedol sydd gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru:
5.1 Wrth adolygu'r Gwasanaeth Llyfrgell yng Ngwynedd a chynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf mae’r gwasanaeth yn ystyried y ‘cynigion llyfrgell’ isod mewn pedwar maes gwasanaeth allweddol y mae defnyddwyr llyfrgell, ac ein partneriaid, yn eu gweld fel rhan annatod o wasanaeth llyfrgell cyhoeddus gyfoes
5. 1.1 Y Cynnig Digidol
· cydnabyddir bod datblygu gwasanaethau, sgiliau a mynediad digidol yn sylfaen i ran fawr o wasanaeth llyfrgell gyfoes - ac mae'n cefnogi'r cynigion eraill
5.1.2 Y Cynnig Gwybodaeth
· mae gan lyfrgelloedd rôl yn cefnogi pobl i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar-lein yn y meysydd sy'n hanfodol i fywyd fel gyrfaoedd, swyddi , iechyd , gwybodaeth ariannol bersonol a budd-daliadau. Mae cynorthwyo pobl i ddefnyddio gwybodaeth a gwasanaethau ar-lein hanfodol yn ganolog i'r cynnig hwn
5.1.3 Y Cynnig Iechyd a Lles
· nodir cyfraniad llyfrgelloedd i iechyd a lles cymunedau lleol gan gynnwys Llyfrau ar Bresgripsiwn i Oedolion a Phlant , Gwasanaeth Cartref i bobl anabl a bregus, Cynllun Macmillan Gwybodaeth a Chyngor Cancr a Salwch Cronig.
5.1.4 Y Cynnig Darllen : cyflwynir a hyrwyddir gwasanaethau darllen mewn llyfrgelloedd . Mae galw cyhoeddus am gynnig darllen bywiog a deniadol gyda grwpiau darllen, ymgyrchoedd a digwyddiadau gydag awduron. Ochr yn ochr â chyfleoedd ymgysylltu â'r cyhoedd mae darpariaeth ar gyfer cynulleidfaoedd penodol megis plant a’u teuluoedd a'r dall a rhannol ddall.
Sylwadau Diweddglo
Croesawir diddordeb Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yng Ngwasanaethau Llyfrgell Gyhoeddus Cymru . Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus rôl gymunedol bwysig a chyfraniad at hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb a hynny fel un o wasanaethau lleiaf llywodraeth leol